Cynllun Gwobrau Cymunedol 2026
Rydych chi’n gallu cyflwyno faint fynnwch chi o enwebiadau, a gallwch enwebu rhywun ym mhob un o’r pum categori neu un enwebiad yn unig. Os hoffech enwebu mwy nag un unigolyn/grŵp yn yr un categori, yna bydd angen ichi gyflwyno ffurflen ychwanegol.
Am ragor o wybodaeth mae croeso ichi ffonio Cyngor Tref yr Wyddgrug ar 01352 758532 neu anfon e-bost at events@moldtowncouncil.org.uk
Enwebiadau
Ar-lein -
Saesneg https://forms.gle/i2Gc4qBWUSdNM9oT8Cymraeg https://forms.gle/8xZjLxNZzqLvdt479 Mae pum categori ar gyfer yr enwebiadau. Byddwch cystal â rhoi manylion yr unigolyn yr ydych yn ei enwebu yn y categori priodol. Rhaid ichi gynnwys enw’r unigolyn/busnes/grŵp a rhoi’r rheswm pam yr ydych yn eu henwebu. Os ydych chi’n gwybod beth yw eu manylion cysylltu, byddwch cystal â’u cynnwys; os ydynt yn cael eu dewis gan ein panel beirniadu, yna bydd angen inni gysylltu â hwy. Mae PAWB sy’n cael eu henwebu yn gorfod bod yn unigolyn/unigolion sy’n byw neu sy’n gweithio yn Nhref yr Wyddgrug neu sy’n rhoi cymorth i drigolion yr Wyddgrug.
Gwobr am wirfoddoli - Ar gyfer unigolion neu grwpiau 25 oed a hŷn sydd wedi gwneud gwahaniaeth i’w cymuned trwy wirfoddoli.
Gwobr Llwyddiant mewn Chwaraeon - Mae’r wobr yn cael ei rhoi i’r unigolyn neu’r grŵp sydd wedi cyflawni camp ragorol, dangos gallu rhagorol neu annog pobl eraill i gymryd rhan mewn gweithgaredd ym myd chwaraeon. Fel unigolion, efallai y byddant wedi rhoi hyfforddiant, ymarfer neu gymorth gweinyddol i glwb neu grŵp chwaraeon.
Diolch ichi am eich enwebiad(au). Bydd yr holl enwebiadau yr ydym yn eu derbyn yn cael eu beirniadu gan Bwyllgor Gwobrau Cymunedol Cyngor Tref yr Wyddgrug, a bydd yr enillwyr yn cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn Seremoni Gwobrau ar-lein. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu faterion eraill o bwys ichi, mae croeso ichi ffonio Cyngor Tref yr Wyddgrug ar 01352 758532 neu anfon e-bost at events@moldtowncouncil.org.uk