Croeso i Cyngor Tref y Wyddgrug
Mae Cyngor Tref yr Wyddgrug yn gweithio i wneud bywyd pob dydd yn yr Wyddgrug yn well, gan wrando ar flaenoriaethau lleol, cefnogi grwpiau cymunedol a helpu i ddarparu gwasanaethau, prosiectau a mentrau sy'n cryfhau'r dref.
Rydym yma i gynrychioli buddiannau’r gymuned leol, gweithio gyda phartneriaid a helpu i wneud yr Wyddgrug yn lle croesawgar a bywiog i fyw ynddo ac i ymweld ag o, ac yn lle gyda chysylltiadau da.
Ar y wefan hon, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am gyfarfodydd a phenderfyniadau'r Cyngor, prosiectau lleol, digwyddiadau cymunedol, gwasanaethau, grantiau a sut i gysylltu â'ch Cynghorwyr Tref a thîm y Cyngor.
Rydym eisiau i drigolion, busnesau a sefydliadau allu gweld beth mae'r Cyngor yn ei wneud, deall sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud a chymryd rhan yn y gwaith o siapio dyfodol yr Wyddgrug.
Yr Wyddgrug yw tref sirol hanesyddol Sir y Fflint ac mae’n dref farchnad ffyniannus yng nghalon yr ardal leol. Mae’r dref yn gartref i fwy na 10,000 o drigolion ac mae hefyd yn gwasanaethu cymuned lawer ehangach, gyda phobl o’r pentrefi cyfagos a’r ardaloedd gwledig yn dod i’r Wyddgrug i siopa, i gael addysg, cyflogaeth, hamdden, gwasanaethau a gweithgareddau cymunedol.
Mae gan yr Wyddgrug hunaniaeth gref a nodedig, sy'n cyfuno ei hanes a'i threftadaeth â chanol tref brysur a bywiog. Mae ein marchnad stryd boblogaidd, ynghyd â’r farchnad da byw, yn parhau traddodiad hir y dref fel canolfan fasnach bwysig ac yn dod â thrigolion ac ymwelwyr i mewn i galon yr Wyddgrug drwy gydol y flwyddyn.
Mae’r dref hefyd yn gartref i amrywiaeth wych o fusnesau annibynnol, grwpiau cymunedol, ysgolion, clybiau chwaraeon a sefydliadau, ynghyd â chyfleusterau diwylliannol a hamdden sy’n cynnwys Theatr Clwyd, un o leoliadau celfyddydol a diwylliannol mwyaf blaenllaw Cymru.
Mae Cyngor Tref yr Wyddgrug yn falch o chwarae ei ran i gefnogi’r dref a’i chymuned. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â Chyngor Sir y Fflint, sefydliadau lleol, busnesau, grwpiau cymunedol a phartneriaid eraill i gefnogi prosiectau, digwyddiadau a mentrau ac i helpu i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl i’r Wyddgrug.
P’un a ydych yn byw yma, yn gweithio yma, yn rhedeg busnes, yn ymweld â’r dref neu’n rhan o un o’r cymunedau niferus o amgylch yr Wyddgrug, rydym am i’r Wyddgrug barhau i fod yn dref groesawgar, fywiog a llwyddiannus.
I gael gwybodaeth i ymwelwyr, hyrwyddo canol y dref, busnesau lleol, digwyddiadau a’r hyn sydd ymlaen yn yr Wyddgrug, ewch draw i Yr Wyddgrug yn Llwyr.
Dogfennau Strategol
Mae Cyngor Tref yr Wyddgrug wedi ymrwymo i fod yn agored a thryloyw yn ei lywodraethiant. Mae'r dudalen hon yn dod â phrif ddogfennau strategol a statudol y Cyngor at ei gilydd, gan gynnwys rheolaeth ariannol, archwilio, ymddygiad, diogelu data, a pholisi. Mae croeso i aelodau'r cyhoedd gysylltu â'r Cyngor os oes angen unrhyw un o'r dogfennau hyn arnynt mewn fformat arall.
Cyfarfodydd ac Agendâu’r Cyngor
Mold Town Council works to make everyday life in Mold better — listening to local priorities, supporting community groups, and helping deliver services and projects that strengthen the town. We publish meetings and information about the council’s work so residents, businesses and organisations can understand what’s happening and get involved.
Cofnodion ac Adroddiadau
Caiff cyfarfodydd y Cyngor Llawn eu cynnal fel arfer ar ddydd Mercher olaf pob mis am 6:00yp, heblaw yn ystod mis Awst a mis Rhagfyr pan fydd y Cyngor ar wyliau. Croesewir aelodau o'r cyhoedd i ddod i wylio'r gweithdrefnau.
Cynhelir cyfarfodydd Cyngor Tref Yr Wyddgrug ar y dyddiadau canlynol yn ystod 2026:
Newyddion
Rydych chi’n gallu cyflwyno faint fynnwch chi o enwebiadau, a gallwch enwebu rhywun ym mhob un o’r pum categori neu un enwebiad yn unig. Os hoffech enwebu mwy nag un unigolyn/grŵp yn yr un categori, yna bydd angen ichi gyflwyno ffurflen ychwanegol.