Bioamrywiaeth a'r Amgylchedd
Mae natur o'n cwmpas ym mhobman – yn ein parciau a'n gerddi, ar hyd ein hafonydd a'n gwrychoedd, ac yn yr adar, y gwenyn a'r bywyd gwyllt sy'n gwneud yr Wyddgrug yn lle mor arbennig i fyw. Nid rhywbeth i'w edmygu yn unig yw bioamrywiaeth, sef yr amrywiaeth anhygoel o fywyd ar y Ddaear. Mae hefyd yn hanfodol i'n hiechyd, ein heconomi a'n dyfodol.
Mae pob blodyn sy'n cynnal peillwyr, pob coeden sy'n amsugno carbon, a phob man gwyrdd sy'n cynnig noddfa i fywyd gwyllt yn helpu i greu cymuned gryfach, fwy iach a mwy gwydn. Wrth i bwysau’r newid hinsawdd a cholli cynefinoedd barhau i gynyddu, mae diogelu ac adfer natur yn bwysicach nag erioed.
Mae Cyngor Tref yr Wyddgrug yn falch o chwarae ei ran yn yr ymdrech i greu dyfodol mwy gwyrdd. Rydym wedi ymrwymo i gymryd camau cadarnhaol sy'n gwella bioamrywiaeth, yn lleihau ein heffaith amgylcheddol ac yn ysbrydoli pobl eraill i wneud yr un peth. Drwy weithio gyda thrigolion, ysgolion, gwirfoddolwyr, sefydliadau lleol a phartneriaid amgylcheddol, gallwn droi camau bach yn newid parhaol.
O arddangosfeydd lliwgar o flodau gwyllt sy'n cefnogi gwenyn a gloÿnnod byw, i ofalu am fannau gwyrdd cymunedol ac annog arferion cynaliadwy, mae ein huchelgais yn syml: helpu natur i ffynnu gan hefyd wneud yr Wyddgrug yn lle gwell fyth i bobl fyw, gweithio ac ymweld.
Gyda'n gilydd, gallwn adeiladu tref lle mae bywyd gwyllt yn ffynnu, cymunedau'n cysylltu â'r byd naturiol, a chenedlaethau'r dyfodol yn etifeddu amgylchedd y gallant fod yn falch ohono.
Ein Hymrwymiad
Mae Cyngor Tref yr Wyddgrug wedi ymrwymo i wneud hyn:
- Rhoi bioamrywiaeth ac ystyriaethau amgylcheddol wrth wraidd ein penderfyniadau a'n gweithgareddau dyddiol.
- Creu a diogelu cynefinoedd sy'n cefnogi bywyd gwyllt, peillwyr a rhywogaethau brodorol.
- Lleihau ein hôl troed amgylcheddol drwy leihau gwastraff, gwella effeithlonrwydd ynni a hyrwyddo arferion cynaliadwy.
- Gofalu am barciau, mannau gwyrdd ac ardaloedd naturiol a'u gwella, fel eu bod yn parhau i fod o fudd i bobl a natur fel ei gilydd.
- Gweithio gyda chymunedau lleol, ysgolion, busnesau a sefydliadau partner i ddarparu prosiectau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
- Annog ymwybyddiaeth amgylcheddol a helpu trigolion i gysylltu â'r byd naturiol a gofalu amdano.
- Cyflawni ac adolygu ein Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth yn rheolaidd er mwyn sicrhau cynnydd ystyrlon a gwelliant parhaus.
- Arwain drwy esiampl a hyrwyddo atebion ymarferol sy'n helpu i sicrhau bod yr Wyddrug yn fwy glân, gwyrdd a chynaliadwy.
- Mae pob coeden sy’n cael ei phlannu, pob cynefin sy’n cael ei adfer a phob penderfyniad sy'n ystyriol o'r amgylchedd yn dod â ni gam yn nes at ddyfodol mwy iach. Drwy groesawu bioamrywiaeth a chynaliadwyedd heddiw, rydym yn buddsoddi mewn tref ffyniannus yn yr Wyddgrug ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.