Y Cynllun Gwobrau Cymunedol
Yn Dathlu'r Bobl Sy'n Gwneud yr Wyddgrug yn Arbennig
Mae gan bob cymuned unigolion, grwpiau, busnesau a sefydliadau sy'n mynd gam ymhellach i wneud gwahaniaeth. Mae Gwobrau Cymunedol yr Wyddgrug yn cydnabod ac yn dathlu'r bobl y mae eu hymroddiad, eu cyflawniadau a'u hymrwymiad yn helpu i wneud yr Wyddgrug yn lle bywiog, gofalgar a llwyddiannus i fyw, gweithio ac ymweld.
Gallai hynny fod trwy wirfoddoli, cefnogi achosion lleol, ysbrydoli eraill drwy chwaraeon, rhedeg busnes sy'n canolbwyntio ar y gymuned neu gyflawni prosiectau sy'n dod â phobl ynghyd, ac mae'r gwobrau hyn yn troi’r sbotolau ar y bobl y mae eu hymdrechion yn cael effaith gadarnhaol ar ein tref.
Categorïau’r Gwobrau
Y Wobr i Wirfoddolwyr Ifanc
Yn cydnabod unigolion neu grwpiau o dan 25 oed sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol i'r gymuned drwy wirfoddoli a chymryd rhan yn y gymuned.
Y Wobr i Wirfoddolwyr
Yn cydnabod unigolion neu grwpiau 25 oed neu’n hŷn sydd wedi dangos ymrwymiad eithriadol i wella bywydau pobl eraill drwy wirfoddoli a gwasanaeth cymunedol.
Busnes y Flwyddyn
Mae hwn yn cael ei ddyfarnu i fusnes, manwerthwr, masnachwr marchnad neu ddarparwr gwasanaeth lleol sydd wedi dangos ymrwymiad rhagorol i'r gymuned, boed hynny drwy waith elusennol, cefnogaeth gymunedol neu wasanaeth y cwsmer rhagorol.
Gwobr Cyflawniad Chwaraeon
Mae hwn yn dathlu unigolion neu dimau sydd wedi cael llwyddiant mewn chwaraeon, wedi dangos gallu rhagorol neu wedi ysbrydoli pobl eraill i gymryd rhan mewn chwaraeon. Gall hyn gynnwys hyfforddwyr, gwirfoddolwyr, gweinyddwyr a phobl sy'n cefnogi cyfleoedd chwaraeon yn y gymuned.
Prosiect neu Ddigwyddiad Cymunedol y Flwyddyn
Yn cydnabod prosiectau, mentrau neu ddigwyddiadau sydd wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol yn y gymuned. Gall hyn gynnwys digwyddiadau cymunedol, prosiectau amgylcheddol, mentrau elusennol neu weithgareddau sydd wedi dod â phobl ynghyd a gwella bywydau trigolion lleol.
Gwobr Dewis y Maer
Maer yr Wyddgrug sy’n dewis enillydd y wobr arbennig hon sy’n cydnabod unigolyn neu sefydliad sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i'r gymuned neu y mae ei weithredoedd wedi ysbrydoli a bod o fudd i eraill mewn ffordd wirioneddol nodedig.
Enwebiadau
Anogir aelodau'r cyhoedd i enwebu unigolion, grwpiau, busnesau a sefydliadau sy'n haeddu cydnabyddiaeth am eu cyfraniad i gymuned yr Wyddgrug.
Nid oes terfyn ar nifer yr enwebiadau y gellir eu cyflwyno, a chroesewir enwebiadau ar draws pob categori o wobr.
Cydnabod Rhagoriaeth Leol
Mae Gwobrau Cymunedol yr Wyddgrug yn gyfle i ddathlu'r ymroddiad, y caredigrwydd, y dalent a'r ysbryd cymunedol sy'n gwneud yr Wyddgrug yn lle mor arbennig. Drwy'r gwobrau hyn, mae Cyngor Tref yr Wyddgrug yn falch o gydnabod y rhai sy'n gweithio'n ddiflino i gefnogi eraill, cryfhau ein cymuned ac ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol.
Gwahoddir enwebiadau yn ystod rhaglen flynyddol Gwobrau'r Gymuned. Bydd manylion ynglŷn â phryd y bydd y broses enwebu’n agor, sut i gyflwyno enwebiad a dyddiadau allweddol ar gyfer y gwobrau’n cael eu cyhoeddi ar wefan Cyngor Tref yr Wyddgrug, ar sianeli cyfryngau cymdeithasol ac mewn cyfathrebiadau eraill gan y Cyngor.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chyngor Tref yr Wyddgrug.