Gwirfoddoli gyda Chyngor Tref yr Wyddgrug
Gwnewch Wahaniaeth yn Eich Cymuned
Ydy’r Wyddgrug yn annwyl iawn i chi? Ydych chi'n mwynhau cwrdd â phobl newydd, cefnogi digwyddiadau lleol a rhoi rhywbeth yn ôl i'ch cymuned?
Mae gwirfoddoli gyda Chyngor Tref yr Wyddgrug yn gyfle gwych i gymryd rhan, gwneud ffrindiau newydd a helpu i greu'r awyrgylch bywiog sy'n gwneud ein tref mor arbennig. P'un a ydych chi’n gallu rhoi ychydig oriau neu eisiau cefnogi sawl digwyddiad drwy gydol y flwyddyn, byddem wrth ein boddau’n eich croesawu chi i'n tîm o wirfoddolwyr.
Yr Hyn y Byddwch Chi'n Helpu ag o
Mae ein gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hanfodol yn llwyddiant y gwyliau, marchnadoedd a digwyddiadau cymunedol ledled y dref. Yn dibynnu ar y digwyddiad, gallech helpu i wneud y pethau hyn:
- 🎪 Gosod offer y digwyddiad a’i dynnu ar y diwedd
- 🚶 Trefnu a chroesawu ymwelwyr
- 🧹 Cadw’r mannau lle mae’r digwyddiadau yn daclus drwy gasglu sbwriel
- 🚧 Cynorthwyo gyda chau ffyrdd a rheoli cerddwyr
- ☕ Gweini bwyd a diod ysgafn
- 🎟️ Gwerthu tocynnau raffl neu nwyddau
- 💷 Casglu ffioedd mynediad lle bo angen
- 🛡️ Helpu i sicrhau bod digwyddiadau'n ddiogel ac yn bleserus i bawb
- 🌟 Gweithredu fel llysgennad cyfeillgar ar gyfer y digwyddiad ac i dref yr Wyddgrug
Nid yw unrhyw ddau ddigwyddiad yr un peth, felly mae pob profiad gwirfoddoli’n unigryw ac yn wobrwyol.
Nid Oes Angen Profiad
Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol na chymwysterau arbennig arnoch i wirfoddoli gyda ni. Y rhinweddau pwysicaf yw brwdfrydedd, bod yn ddibynadwy ac ysbryd cymunedol cadarnhaol.
Mae swyddogion a chynghorwyr Cyngor y Dref yn darparu arweiniad a chefnogaeth lawn, a gall cyfleoedd godi i gael hyfforddiant ychwanegol trwy gydol eich taith wirfoddoli.
Pam Gwirfoddoli?
Trwy ymuno â'n tîm gwirfoddolwyr, byddwch yn:
- ❤️ Gwneud gwahaniaeth go iawn i'ch cymuned leol
- 🤝 Cwrdd â phobl o'r un meddylfryd â chi a gwneud ffrindiau newydd
- 🌱 Dysgu sgiliau a chael profiad gwerthfawr
- 🎉 Bod yn rhan o rai o wyliau a digwyddiadau mwyaf yr Wyddgrug
- 🏡 Helpu i hyrwyddo balchder cymunedol ac arddangos popeth sy'n gwneud yr Wyddgrug yn lle arbennig
Rydym yn darparu'r offer sydd ei angen ar gyfer eich rôl, ac mae gwirfoddolwyr wedi'u cynnwys o dan yswiriant y Cyngor wrth wneud gweithgareddau awdurdodedig (ac eithrio eiddo personol).
Cyfleoedd Hyblyg Drwy Gydol y Flwyddyn
O ddiwrnodau hwyl i'r teulu a dathliadau tymhorol i wyliau cymunedol a digwyddiadau arbennig, rydym yn cynnig cyfleoedd i wirfoddoli drwy gydol y flwyddyn. Rydych yn rhydd i wirfoddoli mor aml ag sy'n briodol i chi a’ch amser sbâr, heb unrhyw ymrwymiad gofynnol.
Ymunwch â'n Tîm
Os hoffech ddod yn rhan o'r tîm cyfeillgar sy'n helpu i wneud yr Wyddgrug yn lle gwell fyth i fyw, gweithio ac ymweld, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych.
Cysylltwch â ni:
📞 01352 758532
📧 events@moldtowncouncil.org.uk
Gyda'n gilydd, gallwn greu digwyddiadau cofiadwy, cryfhau ein cymuned a pharhau i wneud yr Wyddgrug yn dref i fod yn falch ohoni.
Straeon Gwirfoddolwyr
Pobl Go Iawn. Profiadau Go Iawn. Ysbryd Cymunedol Go Iawn.
Mae pob gwirfoddolwr yn dod â rhywbeth unigryw i Gyngor Tref yr Wyddgrug – efallai eu bod yn helpu am ychydig oriau mewn digwyddiad neu’n rhannu gwybodaeth arbenigol, neu efallai eu bod eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned. Dyma beth sydd gan rai o'n gwirfoddolwyr rhagorol i'w ddweud.
Dave – “Efallai y byddi di’n mwynhau!”
Pan ymddeolodd Dave, ar ôl mwy na 40 mlynedd yn ei yrfa, penderfynodd wirfoddoli i gefnogi'r digwyddiadau yr oedd wedi'u hedmygu yn y dref. Mewn ychydig dros flwyddyn, mae wedi gwneud ffrindiau a dysgu sgiliau newydd ac mae’n ymfalchïo wrth weld teuluoedd yn mwynhau digwyddiadau y bu’n helpu i’w creu.
“Rwy'n teimlo fy mod i'n rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned. Rho gynnig arni – efallai y byddi di’n mwynhau!”
Jane – “Helpa dy hun drwy helpu eraill.”
Cafodd Jane ei hysbrydoli ychydig flynyddoedd yn ôl gan ymroddiad y gwirfoddolwyr ar y pryd ac ymunodd â'r tîm. Dydy hi ddim wedi difaru. Mae hi wrth ei bodd â'r ysbryd cymunedol, yr ymdeimlad o berthyn ac mae hi’n gweld casglu sbwriel yn therapiwtig!
“Mae hyd yn oed awr neu ddwy’n gwneud gwahaniaeth. Helpa dy hun drwy helpu eraill - a byddi di’n cael llwyth o hwyl wrth wneud!”
John – Yn Rhannu Stori'r Wyddgrug
Mae John yn wirfoddolwr ers tua chwe blynedd, ac mae’n cyfuno ei frwdfrydedd am hanes gyda thywys ymwelwyr o amgylch Bryn y Beili. Mae'n mwynhau cyfarfod pobl o bob cwr o'r byd a datgelu straeon diddorol am orffennol yr Wyddgrug.
“Rhowch gynnig arni – efallai y byddwch chi'n synnu mor wobrwyol a boddhaus yw’r gwaith. Mae'r cyflog yn ofnadwy, ond mae'r cwmni a'r cacennau’n wych!”
Jo – “Mae pob ychydig bach yn helpu.”
Ar ôl byw yn yr Wyddgrug ar hyd ei hoes, roedd Jo eisiau chwarae rhan mewn cadw digwyddiadau gwych y dref yn fyw. O'i rôl gyntaf gofiadwy fel "gwarchodwr” yn diogelu robot 12 troedfedd yn y Carnifal i gwrdd â ffrindiau newydd, mae gwirfoddoli wedi bod yn hwyl ac yn wobrwyol iawn.
“Hyd yn oed os mai awr o gasglu sbwriel yw’r gwaith, mae pob darn bach yn gwneud gwahaniaeth enfawr.”
Lorna – 13 Mlynedd o Ysbryd Cymunedol
Gwirfoddolodd Lorna yn gyntaf i helpu i adfywio Carnifal yr Wyddgrug yn 2012 ac mae wedi parhau i fod yn rhan o'r tîm trefnu byth ers hynny. Mae gweld misoedd o gynllunio'n dwyn ffrwyth a gwylio'r gymuned yn mwynhau'r digwyddiad yn ei chadw hi yn y rôl flwyddyn ar ôl blwyddyn.
“Cer amdani – byddi wrth dy fodd!”
David – Helpu i Wneud Gŵyl Tachwedd yn Llwyddiant
Am saith mlynedd, mae David wedi gwirfoddoli gyda Gŵyl Tachwedd, gan drefnu a rheoli'r detholiad o gwrw ochr yn ochr â’i gyd-wirfoddolwyr. Mae'n cael boddhad mawr o weld ymwelwyr yn mwynhau'r digwyddiad gan wybod ei fod wedi chwarae rhan yn y broses o’i roi ar waith.
“Os oes gennych chi amser sbâr, cymerwch ran. Byddwch chi'n mwynhau.”
Jim – Cyfeillgarwch a Boddhad
I Jim, daw rhai o'r eiliadau gorau o'r briffiau a'r sesiynau dadansoddi i wirfoddolwyr, gan wneud ffrindiau a mwynhau'r boddhad a ddaw o helpu pobl eraill.
“Mwy o foddhad yn gwirfoddoli nac wrth wneud fy swydd ddyddiol. Ewch amdani!”
Rhian – Cadw'n Egnïol a Rhoi'n Ôl
Ar ôl ymddeol, roedd Rhian eisiau cyfrannu i’w chymuned leol. Mae gwirfoddoli wedi ei chadw hi'n egnïol, wedi ei chyflwyno i bobl newydd ac wedi gadael iddi gefnogi digwyddiadau sy'n arddangos popeth sydd gan yr Wyddgrug i'w gynnig.
“Mae'n beth gwobrwyol iawn i'w wneud ac mae'n helpu i hyrwyddo'r dref.”
Ymunwch â'n Tîm Gwirfoddolwyr
P'un a oes gennych chi awr i’w sbario, neu ddiwrnod, neu efallai amser i helpu gyda nifer o ddigwyddiadau bob blwyddyn, mae lle i chi yn ein teulu o wirfoddolwyr. Byddwch chi'n gwneud ffrindiau newydd, yn ennill profiad gwerthfawr ac yn helpu i greu'r digwyddiadau a'r gweithgareddau sy'n gwneud yr Wyddgrug yn lle mor wych i fyw ynddo ac i ymweld ag ef.
Ydych chi’n barod i gymryd rhan? Byddem wrth ein boddau’n clywed gennych chi.